Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS CHEFROR 2014

Newydd sylweddoli ei bod yn fis Chwefror yn barod a minnau heb ddanfon gair. Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ddymuno Blwyddyn newydd Dda i chi, tra’n rhyfeddu pa mor gyflym y mae’r misoedd yn mynd heibio.

Y dasg bwysicqf o ddigon i ni cyn diwedd Ionawr oedd cwblhau adroddiad o’n blwyddyn gyntaf fel derbynwyr y grant tair blynedd gan y Loteri Genedlaethol. Roedd tafoli’r cyfan , wedi deuddeg mis o waith, a sicrhau bod ein symiau yn berffaith, yn ymarferiad pwysig wrth i ni frwydro ymlaen gyda’n gwaith. Dim ond gobeithio ein bod wedi cofio am bopeth .

Wrth fanylu ar bethau fel hyn, y mae rhai agweddau yn amlygu eu hunain. Heb os bydd yn rhaid i ni ail gysylltu gyda nifer o’r asiantaethau yr ydym wedi clymu ein hunain iddynt. RNIB Cymru, Strôc Cymru i enwi dau yn unig.

Yr hyn fydd yn gyffrous i ni yn ystod yr wythnosau nesa fydd gweld faint o ymateb fydd i syniad ein ffrindie ym mudiad Merched y Wawr. Bu Llywydd y mudiad, Gill Griffiths a thair aelod yn darllen cynnwys rhifyn y Gwanwyn o’r Wawr, cylchgrawn hardd y mudiad, y dydd o’r blaen. Pan fydd y saith mil o aelodau yn derbyn y rhifyn yna, bydd cryno ddisg yn gynwysiedig hefyd ac anogaeth i’r aelodau fynd ati i chwilio gwrandawyr sydd yn cael trafferth i ddarllen print. O adnabod rhywun o fewn eu milltir sgwâr, gall yr aelodau hysbysu ni yn Llyfrau Llafar Cymru. Drwy hyn, mae potensial cynnydd sylweddol yn y nifer sy’n derbyn ein gwasanaeth . Diolch o galon i’r Mudiad am gymwynas amrhisiadwy.

Mae ein dyddiau yn ein swyddfa ym Mhensarn yn dod i ben. Cyn y Pasg, byddwn wedi symud aelwyd i Barc Dewi, canolfan weinyddol sydd erbyn hyn dan adain Cyngor Sir Caerfyrddin. Y cyngor roddodd loches i ni ym Mhensarn ryw naw mlynedd yn ôl , ond y mae na awydd, yng nghanol trafferthion blin ariannol y dyddiau hyn, i werthu’r safle. Addawodd swyddogion y cyngor, serch hynny, y bydden nhw yn canfod adeilad newydd, pwrpasol ar ein cyfer, ac y maen nhw wedi cadw at eu gair. Gyda bod miloedd o gasetiau a chryno ddisgiau i’w didoli, silffoedd newydd i’w codi, offer swyddfa i’w symud, heb anghofio paratoi stiwdio newydd, bydd digon o esgus gyda fi, a’r criw i gyd, i ohirio’r blog nesa tan ymhell wedi Gŵyl y Pasg. Felly dyma ddymuno i chi Basg Hapus nawr – yn Chwefror!

Comments are closed.