Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS MEDI 2013

SIOP LYFRAU LEWIS LLANDUDNO

SIOP PALAS PRINT CAERNARFON

SIOP INC ABERYSTWYTH

SIOP SIAN CRYMYCH

SIOP TY TAWE

Doedden ni ddim yn siwr beth i’w ddisgwyl wrth i ni fynd ar daith o gwmpas Cymru. Y syniad oedd ymweld â phum siop, gwahodd disgyblion o’r ysgolion lleol i sgwrsio gydag awdur lleol, cymell aelodau seneddol, aelodau Cynulliad, optegwyr, llyfrgellwyr,deillion ac eraill i ddod draw i’n cyfarfod.

Roedd y cyfan yn ymgais i hysbysebu beth mae Llyfrau Llafar Cymru yn ei wneud, codi ymwybyddiaeth, a chanfod gwrandawyr newydd. A fydde fe’n gweithio? Wel, gallwn ddweud nawr nad oedd angen i ni ofni.

O’r funud y cyrhaeddon ni Siop Lyfrau Lewis yn Llandudno (dydd Llun,16 Medi) roedd hi’n amlwg bod posibiliadau mawr. Roedd croeso Trystan a Llinos yn ddigon i godi calon. Fe’n harweiniwyd i ystafell uwchben y siop ac yno roedd cadeiriau esmwyth a digon o le i osod sgrin a thaflunydd. Cyrhaeddodd disgyblion Ysgol y Creuddyn gyda’u Pennaeth, Dr Meirion Davies ac,yn dynn wrth eu sodlau, y prif-fardd a pherchennog Gwasg Carreg Gwalch, Myrddin ap Dafydd. Sesiwn gwerth chweil wedyn yn trafod pwysigrwydd y llyfr, beth y gellid ei wneud i gyrraedd mwy o bobl â phroblemau gweld. Sesiwn i godi calon, y disgyblion yn amlwg yn mwynhau trafod a chynnig syniadau. Braf oedd cael cwmni cynrychiolwyr o’r Papur Llafar lleol hefyd yn ystod y bore. Wedi cinio pwy ddaeth i’n plith ond y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Arweinydd Cyngor Sir Conwy, yna Guto Bebb, yr aelod seneddol lleol, a chyn i ni droi am Gaernarfon, yr aelod Cynulliad, Janet Finch-Saunders. Awygrymiadau gwerthfawr o bob tu, a phatrwm a ddilynwyd drannoeth yn nhre’r Cofi.

Yno, ym Mhalas Print roedd Selwyn ac Eirian wedi paratoi ar ein cyfer. Y gwestai oedd yr awdur lleol Rhiannon Wyn a’r holwyr oedd disgyblion Ysgol Syr Hugh Owen. Doedd dim modd stopio’r holi deallus a’r sylwadau. Yn gwrando ar y cyfan roedd Maer y Dre, y cynghorydd Roy Owen, yn ymatal rhag tarfu ar y sesiwn chware teg. Yno hefyd roedd y cynghorydd Charles Jones yn cynrychioli Cyngor Sir Gwynedd. Yn hwyrach fe ddaeth yr aelod seneddol, Hywel Williams, yn amlwg â diddordeb mawr yn ein gwaith.

Dydd Mercher a dyma ni yn glanio yn Siop Inc yn Aberystwyth. Croeso mawr eto gan Angharad a’i mam. Oherwydd ryw gam-ddealltwriaeth, chawsom ni ddim cwmni disgyblion Penweddig a Phenglais. Roedd hynny yn biti. Y gwestai oedd y nofelydd, Daniel Davies, awdur “Tair Rheol Anrhefn,” llyfr hynod o ddifyr ac un a fydde wedi bod yn destun trafod brwd. Diolch iddo am alw i mewn a dangos cymaint o ddiddordeb. Y prynhawn hwnnw roedden ni yn cael cwmni aelodau o Ferched y Wawr. Yn rhifyn Mawrth 2014 o gylchgrawn y mudiad, Y Wawr, fe fydd pob copi yn cynnwys cryno ddisg o’r rhifyn hwnnw fel y gall aelodau fynd o gwmpas yn tynnu sylw at ein gwasanaeth. Mae’n syniad gwych ac rydym yn diolch i Tegwen Morris a swyddogion y mudiad am fachu ar gynllun unigryw.

Lois Davies, Sara Watkins, Mared Harries a Stephan Howells. Dyna’r pedwar ddaeth draw o Ysgol y Preseli i gwrdd â’r byrlymus, Alun Ifans, o Gasmael, awdur dwsenni o lyfrau. Go brin y byddai’r pedwar wedi cael gwell gwers yn yr ysgol fore Iau hwnnw. Roedd yn sesiwn ysbrydoledig a’r pedwar ar dân am ddychwelyd i’r ysgol i son am y cyfan . Ymhlith y rhai a ddaeth i gael mwy o wybodaeth amdanom oedd y cynghorydd Huw George, Rhydian o Fenter Iaith Sir Benfro a Paul Davies, AC. Diolch i Stephanie a Jill yn Siop Sian am eu croeso – ac am y pice bach a’r cacennau blasus.

Yn Abertawe, yn Nhŷ Tawe, y daeth y daith i ben ddydd Gwener. Diolch i Catrin a Lisa yn Siop Tŷ Tawe ac Alun o’r Fenter Iaith am baratoi yr offer technegol lan lofft. Daeth awdur Llyfr y Flwyddyn, Heini Gruffudd a Bethan Mair, golygydd llyfrau a chyfieithydd, i sgwrsio â disgyblion Ysgol Gymraeg Bryn Tawe. Tri chwarter awr hynod o ddifyr ac unwaith eto roedd y disgyblion yn mynd nôl i’r ysgol gyda syniadau ar sut i helpu Llyfrau Llafar Cymru. Galwodd yr aelod cynulliad, Mike Hedges i’n gweld, yn amlwg yn awyddus i gefnogi ein gwasanaeth.

Diolch i bawb a alwodd i’n gweld ni yn y pum lleoliad, a diolch hefyd i dim y Llyfrau Llafar,Phil James, Gareth Gravell, Linda Williams, Rhian Evans, Eirlys Jones, Elsbeth James, Wynn Vittle a Mansel Thomas. Y nhw fu’n crwydro’r strydoedd yn dosbarthu gwybodaeth i feddygon, llyfrgellgwyr, optegwyr a siopwyr.

Gobeithio y daw nifer sylweddol o wrandawyr newydd i’r fei ac y gallwn ail adrodd y cyfan y flwyddyn nesa mewn mannau eraill yng Nghymru.

Comments are closed.