Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Blog y Cadeirydd mis Medi 2012

Mae’n bur debyg mai dyma’r ffordd i gyfathrebu bellach – drwy ysgrifennu blog. Dim nodyn, dim llythyr ond blog.

Pwrpas blog yn ôl y sôn yw i’r person sydd yn ei lunio gael cyfle i arllwys ryw gwyn neu gilydd neu dynnu sylw at rywbeth arbennig.

Nid lle i bentyrru cwynion yw hwn: mae gormod yn digwydd gyda Llyfrau Llafar Cymru i ganfod amser i gwyno’n ormod yn gyhoeddus.

Nos Fercher, 26ain o Fedi roeddwn lawr yn Methlehem, Pwll Trap, San Clêr ar wahoddiad Marian Glyn Thomas. Roedd y capel wedi cyfrannu £1000 i Llyfrau Llafar Cymru a minnau yn awyddus i ddiolch iddyn nhw, yr aelodau hael, am y gefnogaeth ariannol sylweddol yna.

A sôn am gefnogaeth roedd hwn yn gyfle i dalu diolch i’r Parchedig Rhodri Glyn Thomas, aelod o’r Cynulliad a’r un wnaeth sicrhau bod na wrandawiad i’n cais am arian y llynedd i ail- lawnsio‘r hen Gynllun Casetiau, fel Llyfrau Llafar Cymru.

Fe welir llun a dynnwyd wedi’r cyfarfod ar ein gwefan fel nifer o rai eraill sy’n cofnodi haelioni capeli a sefydliadau ar draws y wlad. Ni fedrwn ddiolch digon.Mae’r Apêl erbyn hyn wedi codi yn agos i £30,000.

Yn anffodus dyw hynna ddim yn ddigon i sicrhau parhad tymor hir y cynllun newydd, felly dyna pam rydym wedi treulio’r haf yn danfon ceisiadau am gymorth oddi wrth y Loteri Genedlaethol, Cynllun Iaith Fyw Llywodraeth Cymru, a nifer o ffynhonellau eraill. Os cawn ni ymateb ffarfriol yn ystod y misoedd nesa fe fyddwn yn medru cyhoeddi’r newyddion da yn ein hadran newyddion o’r wefan hon.

Fe ddylwn orffen drwy danlinellu’r alwad am fwy o wrandawyr. Rydym yn awyddus i ddyblu’r nifer sy’n derbyn llyfrau, cylchgronau a phapurau bro gan Llyfrau Llafar Cymru. Gwyddom bod nifer fawr o bobl a alle fanteisio ar ein cynnyrch. Os gwyddoch am unrhyw un a ddylai dderbyn ein gwasanaeth rhowch wybod i ni ar 01267238225.

Os ydych yn dymuno cael mwy o wybodaeth, neu bod un ohonom ni yn dod i siarad wyneb yn wyneb â chi mewn capel, cymdeithas neu glwb, dewch ar y ffôn.

ST

Comments are closed.