Bu Llyfrau Llafar Cymru yn ffodus i gael bod yn rhan o ymgyrch elusennol y Co-op. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roeddem yn un o dair elusen i elwa wrth i ganran o wariant cwsmeriaid ardal Caerfyrddin fynd i’r elusennau hynny.
Dros y deuddeg mis codwyd bron i £2,000.
Yn ystod diwrnod arbennig yn Siop Caerfyrddin cyflwynwyd siec o £646.22 i Llyfrau Llafar Cymru. Diolch i’r cwsmeriaid a fu mor gefnogol a’r Co-op am eu haelioni.