Haelioni Absoliwt
Haelioni cymdeithasau Cymreig Gogledd America, sef Sefydliad a Chymdeithas Cymru America, ac Undeb Cymru a’r Byd yma yng Nghymru , sydd yn gyfrifol bod cyfieithad cwbl arbennig o lyfr nodedig y bardd Menna Elfyn am fardd arall, Eluned Phillips, wedi ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Bardd arall, Elinor Wyn Reynolds fu’n gyfrifol am y trosiad- “Absolute Optimist” a chyflwynwyd y gwaith i Myra Thomas Lawrence, ffrind mawr i Eluned Phillips ac un o gymwynaswyr pennaf Cymdeithasau Cymreig Gogledd America ac Undeb Cymru a’r Byd. Bu Eluned yn ymweld â Myra droeon cyn ei marwolaeth ac roedd yn siom mawr i Myra na fedrai ddarllen cyfrol Menna. Mae Myra dros ei naw deg oed erbyn hyn ac wedi colli ei golwg.
Daeth Llyfrau Llafar Cymru i’r adwy a bu Menna yn recordio’r cofiant gwreiddiol, “Optimist Absoliwt”" yn arbennig ar gyfer ei drosglwyddo i Myra Thomas Lawrence ym Montecito,California. Danfonwyd, hefyd, recordiad o Eluned ei hun yn darllen ei hunan-gofiant rai blynyddoedd ynghynt. Cais oedd hyn gan y Sefydliadau er mwyn i’r aelodau ddangos eu gwerthfawrogiad i Myra am ei haelioni tuag at y mudiadau â chanddynt gysylltiadau â Chymru.
Canlyniad y recordio oedd i’r gwasanaeth, a leolir yng Nghaerfyrddin, dderbyn cyfraniad o £1,000 tuag at barhau â’r gwaith i ddarparu deunydd ar gyfer pobl â nam ar eu golwg.
“Roedd yn bleser pur cael bod yn rhan o’r ymarferiad annisgwyl yma ” meddai Sulwyn Thomas, cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru. “Bu Menna yn darllen ei llyfr mewn nifer o sesiynau recordio. Danfonwyd y cryno ddisgiau i Will Fanning (Llywydd, Cymdeithas Cymru-Gogledd America) sydd yn byw yn Los Angeles ac yntau yn teithio dros gan milltir i Montecito a throsglwyddo’r cyfan i ddwylo Myra. Yn ôl y sôn roedd hi wrth ei bodd yn clywed y darlleniad, a gwrando ar Menna yn adrodd hanes lliwgar a dadleuol Eluned. Eleni roedd yn dda gweld merch arall o Gaerfyrddin, Elinor Wyn yn creu campwaith o addasiad. Y dasg nesaf i ni yw recordio’r gwaith diweddaraf a danfon pecyn arall ar draws Môr Iwerydd. Diolch i ‘r Sefydliadau am gyfraniad sylweddol.”
Daeth cyfle ar ddiwedd y lansiad i gael llun. Ynddo mae Will Fanning a Phil Davies (Ysgrifennydd Sefydliad Cymru -Gogledd America),Menna Elfyn ac Elinor Wyn Reynolds, a Mansel a Sulwyn Thomas o Llyfrau Llafar Cymru.
Cefn- Will Fanning / Sulwyn Thomas
Blaen – Philip Davies,Menna Elfyn,Elinor Wyn Reynolds,Mansel Thomas
Yn ystod yr wythnos eisteddfodol cafodd swyddogion y Gymdeithas gyfle i gyfarfod â Rhian Evans, a fu’n gyfrifol am ddechrau recordio llyfrau sain nôl ym 1979,sef Cynllun Casetiau Cymraeg- rhagflaenydd Llyfrau Llafar Cymru.
Am fwy o wybodaeth cysyllter â Philip Davies ( e-bost : nwafcymru @gmail.com) neu Sulwyn Thomas (sulwynthomas@yahoo.co.uk)