Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

HAELIONI ABSOLIWT

Haelioni Absoliwt

Haelioni cymdeithasau Cymreig Gogledd America, sef Sefydliad a Chymdeithas Cymru America, ac Undeb Cymru a’r Byd yma yng Nghymru , sydd yn gyfrifol bod cyfieithad cwbl arbennig o lyfr nodedig y bardd Menna Elfyn  am fardd arall, Eluned Phillips, wedi ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Bardd arall, Elinor Wyn Reynolds fu’n gyfrifol am y trosiad- “Absolute Optimist” a chyflwynwyd y gwaith i Myra Thomas Lawrence, ffrind mawr i Eluned  Phillips ac un o gymwynaswyr  pennaf  Cymdeithasau Cymreig Gogledd America ac Undeb Cymru a’r Byd. Bu Eluned yn ymweld â Myra droeon cyn ei marwolaeth ac roedd yn siom mawr i Myra na fedrai ddarllen cyfrol Menna. Mae Myra dros ei naw deg oed erbyn hyn ac wedi colli ei golwg.

Daeth  Llyfrau Llafar Cymru i’r adwy  a bu Menna yn recordio’r cofiant gwreiddiol, “Optimist Absoliwt”" yn arbennig ar gyfer ei drosglwyddo i Myra Thomas Lawrence ym Montecito,California.  Danfonwyd, hefyd, recordiad o Eluned ei hun yn darllen ei hunan-gofiant rai blynyddoedd ynghynt.  Cais oedd hyn gan y Sefydliadau  er mwyn i’r aelodau ddangos eu gwerthfawrogiad i Myra am ei haelioni tuag at y mudiadau â chanddynt gysylltiadau  â  Chymru.

Canlyniad y recordio oedd i’r gwasanaeth, a leolir yng Nghaerfyrddin, dderbyn cyfraniad o £1,000 tuag at barhau â’r  gwaith i ddarparu deunydd  ar gyfer pobl â nam ar eu golwg.

“Roedd yn bleser pur cael bod yn rhan o’r ymarferiad annisgwyl  yma ” meddai Sulwyn Thomas, cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru. “Bu Menna yn darllen ei llyfr mewn nifer o sesiynau recordio. Danfonwyd y cryno ddisgiau i Will Fanning (Llywydd, Cymdeithas Cymru-Gogledd America) sydd yn byw yn Los Angeles ac yntau yn teithio dros gan milltir i Montecito a throsglwyddo’r cyfan i ddwylo Myra.  Yn ôl y sôn roedd hi wrth ei bodd yn clywed  y darlleniad, a gwrando ar Menna yn adrodd hanes lliwgar a dadleuol  Eluned.  Eleni roedd yn dda gweld merch arall o Gaerfyrddin, Elinor Wyn yn creu campwaith o addasiad.  Y dasg nesaf i ni yw recordio’r gwaith diweddaraf  a danfon pecyn arall ar draws Môr Iwerydd. Diolch i ‘r Sefydliadau am gyfraniad sylweddol.”

Daeth cyfle ar ddiwedd y lansiad i gael llun. Ynddo  mae Will Fanning  a Phil Davies (Ysgrifennydd Sefydliad  Cymru -Gogledd America),Menna Elfyn ac Elinor Wyn Reynolds, a Mansel a Sulwyn Thomas o Llyfrau Llafar Cymru.

Cefn- Will Fanning / Sulwyn Thomas

Blaen – Philip Davies,Menna Elfyn,Elinor Wyn Reynolds,Mansel Thomas

Yn ystod yr wythnos eisteddfodol cafodd swyddogion y Gymdeithas gyfle i gyfarfod â Rhian Evans, a fu’n gyfrifol am ddechrau recordio llyfrau sain nôl ym 1979,sef Cynllun Casetiau Cymraeg- rhagflaenydd  Llyfrau Llafar Cymru.

Am fwy o wybodaeth cysyllter â Philip Davies  ( e-bost : nwafcymru @gmail.com) neu Sulwyn Thomas (sulwynthomas@yahoo.co.uk)

Comments are closed.