Gwell cyfaddef ar y dechrau fel hyn i mi fod yn hir cyn danfon gair fel hyn. Ond mae ‘na reswm. Dywedwyd ar ddechrau ymgyrch Penwythnos y Gannwyll y gallai gymryd hyd at chwe mis cyn y byddem yn medru asesu llwyddiant ariannol yr ymarferiad.
Gwir oedd y gair. Hyd yn oed y funud hon ,disgwylir rai cyfraniadau ychwanegol. Serch hynny , wrth i ni groesi’r ffigwr teilwng o £30,000, teimlaf bod angen dweud gair o ddiolch i bawb a drefnodd ryw weithgaredd neu gilydd i hybu’r gronfa a thynnu sylw yr un pryd at ein gwasanaeth.
Fel y gŵyr y selogion i’r cyfryngau cymdeithasol a’r wasg hefyd, i ddwsenni drefnu digwyddiadau. Cynhaliwyd oedfaon ym mhob rhan o Gymru gan ddilyn gwasanaeth arbennig a luniwyd gan y Parchedig Beti-Wyn James a swynwyd cynulleidfaoedd hefyd gan gân deimladwy Tecwyn Ifan – “Golau i’r Nos”. Rydym yn ddyledus i’r ddau am eu mewnbwn.
Diolch hefyd i’r llu cyfeillion a mudiadau welodd yn dda i godi arian i ni. Bu’r ymarferiad yn ffordd dda o godi proffil a thynnu sylw at yr hyn sydd ar gael ar gyfer oobl sy’n cael trafferth i ddarllen print. Bydd yr angen yn parhau. Ein tasg nesaf yw darganfod ffyrdd newydd o godi arian i sicrhau dyfodol hir-dymor i’r gwasanaeth pwysig hwn.
Un syniad sydd ar waith yw cynllunio sut y gall plant a phobl ifenc fod yn rhan o’n hymgyrch. Ymatebodd nifer o ysgolion yn gadarnhaol y llynedd, ond credwn bod mwy y gellir ei wneud.
Amser a ddengys. Mae’r gwaith bob dydd yn mynd rhagddo gyda llyfrau yn cael eu recordio a hen gasetiau yn cael eu digideiddio. Mae ein “llyfrgell” yn ehangu o wythnos i wythnos. Cysylltwch â ni am fanylion ac awygrymiadau. Mwynhewch yr arlwy a Phasg hapus i bawb.
ST