Dathlodd papur bro Y Cardi Bach ei benblwydd yn 40 oed drwy gynnal cyngerdd arbennig. Penderfynodd y pwyllgor gyflwyno elw’r noson wych yn neuadd Llanboidy i Llyfrau Llafar Cymru, sydd hefyd yn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth. Dyma dau o swyddogion y papur bro, Roy Llywelyn ac Eurfyl Lewis yn trosglwyddo siec o £1500 i Rhian Evans, Linda Williams a Sulwyn Thomas o Llyfrau Llafar Cymru.