Annwyl
A oes modd canfod lle i dair stori am Benwythnos y Gannwyll a drefnir gan Llyfrau Llafar Cyrmu eleni. Dyddiad y tridiau yw 21-23 Hydref ond mae croeso i unrhyw un drefnu digwyddiad ar ddyddiad cyfleus rhwng nawr a’r Nadolig, neu hyd yn oed yn y flwyddyn newydd.
Y newydddion diweddaraf yw bod Tecwyn Ifan a’i gyfeillion wedi recordio cân arbennig ar gyfer y Penwythnos- “Golau i’r Nos”. Pa ffordd well i osod naws i’ch digwyddiad na thrwy chwarae’r gân. Mae fersiwn ddigidol. neu Cd ar gael. ( y CD yn £2+ cludiant). Ffoniwch Tŷ Llafar- 01267238225.
Bydd Tecwyn a’i gyfeillion yn ymddangos ar “Heno” nos Lun 17 Hydref.
Mae’r Parchedig Beti-Wyn James wedi paratoi gwasanaeth arbennig ar gyfer y dydd Sul (23 Hydref). Eto does dim rhaid cynnal y gwasanaeth ar yr union ddyddiad. Mae’r gwasanaeth yn un cyflawn, gyda fersiwn Pwynt Pŵer ar gael a chyfle eto i gynnwys cân Tecwyn . Cysyllter â Beti- Wyn ar beti.wyn@icloud.com
Yn naturiol, byddai’n braf pe tae’r casgliad ar y Sul a ddewisir yn cryfhau sefyllfa ariannol Llyfrau Llafar Cymru. Diogelu dyfodol y gwasanaeth hwnnw yw nôd y Penwythnos a’n hymarferiad eleni.
Atodir un syniad a allai fod o gymorth i rywun sydd am drefnu rhywbeth ar y funud olaf.
Diolch unwaith eto
Sulwyn Thomas. Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru