Mae noson arbennig yng Nghlwb y Gremlin yng Nghaerfyrddin wedi rhoi hwb arall i Llyfrau Llafar Cymru. Un o’n cwsmeriaid, Liz Johnson, ac aelod o’r clwb gafodd y syniad i gynnal Sioe Ffasiwn. Roedd hi’n ffodus bod siop BHS gyferbyn â’r clwb a bu’r staff yn fwy na pharod, gyda chymorth pobl ifenc Coleg Sir Gar, i baratoi sioe yn cynnwys dillad tymhorol ac ymarferol.
Fel sy’n gyffredin erbyn hyn, roedd Liz wedi sicrhau nawdd ychwanegol gan Fanc Lloyds ac roedd Nia a Sara wedi ymuno yn yr hwyl. Gyda’r nawdd, raffl ac ocsiwn ynghyd â llond lle o fenwod, ac ambell i ddyn, mae’n bur debyg y bydd elw’r noson yn agos at £1200.
Diolch i bawb am drefnu ac am gefnogi Llyfrau Llafar Cymru.