|
I ddechre, dyw hi ddim yn rhy hwyr i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi gan obeithio y byddwch yn parhau i ddefnyddio ein gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn. Ac y mae rhywbeth yn dweud wrtho i y bydd hi’n flwyddyn gyffrous a phrysur i Llyfrau Llafar Cymru.
Yn dilyn ein cyfarfod gydag Urdd Gobaith [...]
YR URDD A LLYFRAU LLAFAR CYMRU
Mae Llyfrau Llafar Cymru ac Urdd Gobaith Cymru wedi ffurfio partneriaeth newydd. Mewn seremoni hyfryd yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd cadarnhawyd rhai syniadau lle gall y ddau gorff gyd-weithio.
Rydym yn hynod o falch bod y cyd-weithio ‘ma yn digwydd am nifer o resymau. Bob [...]
Pan wnaethon ni gais i’r Loteri Genedlaethol am grant, un ffactor bwysig oedd ein bod am deithio o gwmpas Cymru yn ystod y tair blynedd er mwyn hyrwyddo ein gwaith ac ysgogi pobol i feddwl am rywrai a allai elwa o’n gwasanaeth.
Ar ddiwedd cyfnod y grant hael a dderbyniom, dyma ni wedi cwblhau [...]
“Gwych”, “noson i’w chofio”, “noson arbennig iawn”, dyna’r math o ymateb glywyd yng nghyntedd capel y Priordy wrth i’r cannoedd adael wedi dwy awr o Gymanfa’r Hen Ganiadau. Fedrwch chi ddim maeddu’r hen ganeuon a phrofwyd hynny y noson honno wrth i Gor Meibion Caerfyrddin, Aled ac Eleri Edwards, Philip Watkin ac Ann Davies [...]
Wel, shwd i chi wedi gwyliau’r haf?
Rydym wedi setlo mewn yn dda iawn yn ein cartref newydd ym Mharc Dewi Sant. Penderfynwyd galw’r adeilad yn Tŷ Llafar – enw sy’n cyfleu pwrpas y lle i’r dim. Yma mae’r holl lyfrau yn cael eu recordio, yma hefyd y mae rhifyn wythnosol Papur Llafar Caerfyrddin [...]
Mae’n fis Ebrill cyn troi rownd . Tri mis wedi diflannu yn y prysurdeb o ddidoli a threfnu ar gyfer symud o Bensarn i Dŷ Llafar ym Mharc Dewi Sant. Fe synnech chi faint o stwff gafodd ei daflu i’r sgip ar ol deng mlynedd ym Mhensarn. Diolch i Linda a Phil am weithio mor [...]
Dyma ni nôl yng Nghaerfyrddin wedi taith lwyddiannus arall. Diolch i bawb am eu croeso a’u parodrwydd i gymryd rhan. Roedd y daith eleni yn wahanol am ein bod yn gofyn i blant ysgolion cynradd ac uwchradd i ddod draw atom a mentro darllen darnau o’u hoff lyfrau. Roedd aelodau o’n tîm ni yn rhyfeddu [...]
Llenyddiaeth plant a phobl ifenc fydd yn cael y sylw yn ystod ail daith Llyfrau Llafar Cymru eleni. Bydd nifer o ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn ymarferiad a alle olygu pentwr o lyfrau sain newydd i blant a phobl, ifenc sydd a phroblemau gweld.
Bydd disgyblion ysgolion mewn pum ardal yn cael dewis [...]
Fyddwch chi fyth yn gwybod be ddaw o ryw gyfarfyddiad sydyn ar faes sioe neu eisteddfod. Yn aml iawn, cewch addewid, nas gwireddir, wrth iddo fynd yn angof o fewn oriau.
Dyna hyfryd felly oedd cyfarfod gŵr bonheddig o’r enw, Alun Owen Davies ar faes y Sioe yn Llanelwedd eleni. Prynodd docynne raffl ar gyfer [...]
Mae Steddfod fawr Sir Gâr ar y gorwel ac rydym fel tîm wedi bod yn paratoi ar ei chyfer. Diolch i Gyngor Sir Gaerfyrddin bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal ym mhabell y cyngor i hyrwyddo ein gwaith a’n cysylltiad a’r cyngor. Rydym yn recordio newyddion Sir Gâr bob tro, ac fe fydd [...]
|