Mae Steddfod fawr Sir Gâr ar y gorwel ac rydym fel tîm wedi bod yn paratoi ar ei chyfer. Diolch i Gyngor Sir Gaerfyrddin bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal ym mhabell y cyngor i hyrwyddo ein gwaith a’n cysylltiad a’r cyngor. Rydym yn recordio newyddion Sir Gâr bob tro, ac fe fydd rhifyn arbennig, eisteddfodol, yn barod erbyn wythnos gynta mis Awst.
Dwy sesiwn ar gyfer pobl ifenc a gynigir rhwng 1 a 2 o’r gloch a 4 a 5 o’r gloch ddydd Iau. Dewch draw i’n gweld ni.
Un o’r llyfrau sydd yn gwerthu yn arbennig o dda ar hyn o bryd yw “Bywyd Wrth Ben Ôl Buwch” gan Aneurin Davies. Dyn “AI” yw Aneurin , ac yn dipyn o gymeriad. Cafodd gymorth ei fab, y darlledwr a’r cynhyrchydd, Terwyn Davies, i gwblhau’r gyfrol. A’r mab sydd wedi bod lawr ym Mhensarn yn barod yn darllen y llyfr difyr.
Y noson o’r blaen cafwyd noson ddifyr iawn yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin pan ddaeth Band Prês Nantgaredig a dawnswyr o Rwsia ac Iwerddon i ddiddanu cynulleidfa niferus. Noson o hwyl a chodwyd £580 i Llyfrau Llafar Cymru. Diolch i bawb, yn enwedig i Dafydd a Bobi o Ddawnswyr Nantgaredig.
Mae Linda a Phil wrthi’n brysur yn didoli a chymhenu y dyddiau hyn wrth i ni baratoi i symud o Bensarn i ganolfan newydd. Mwy am hynny eto.