Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Permalink

Bydd ysgolion ar draws Cymru yn ymuno mewn wythnos arbennig yn mis Hydref i hyrwyddo gwaith Llyfrau Llafar Cymru. Yr wythnos a glustnodwyd yw y 23ain i’r 27ain o Hydref. Gofynnir i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd i ddefnyddio eu dychymyg ac i feddwl am syniadau i godi arian er mwyn cefnogi yr elusen yma. Mae canolfan Llyfrau Llafar Cymru yng Nghaerfyrddin  a bydd gweithgarwch yr wythnos yn gymorth i hybysebu a datblygu  gwaith yr elusen ar gyfer pobl sydd gyda nam gweledol ar draws Cymru gyfan.

Yn dilyn llwyddiant Penwythnos y Gannwyll, wnaeth godi dros £30,000 llynedd, mae’r trefnwyr yn gobeithio wrth gynnwys disgyblion ein ysgolion  gall yr ymgyrch eleni estyn allan eto a gosod sialens i’r disgyblion iau yn ogystal a’r disgyblion hŷn.

“Mae dros 1,500 o ysgolion yng Nghymru ac er mai ond rhai ohonynt bu yng nghlwm a’r ymgyrch y llynedd rydym yn meddwl mai canolbwyntio  ar y to ifanc  fydd y nod eleni.’’ medd Sulwyn Thomas, Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru. “Mae o leiaf 1,000 o blant yng Nghymru gyda diffygion gweledol ac rydym yn awyddus iawn i ddarparu “llyfrau” ar eu cyfer, yn Gymraeg ac yn Saesneg, law yn llaw gyda’r hyn rydym yn darparu ar gyfer y genedlaeth hŷn.

Mae gennym o gwmpas 500 o bobl sydd yn dibynnu ar ein gwasanaeth gwirfoddol ar hyn o bryd. Ond eto rydym yn hollol argoeddiedig y gall llawer mwy elwa o’r gwasanaeth yma ac, fel rydym wedi darganfod eisioes, mae plant yn dda iawn yn medru cario’r neges adref i’w rhieni, eu mamguod a’u tadcuod. Mae adnabod pobl newydd all elwa o’r hyn rydym yn darparu yr un mor bwysig i ni a beth yw y sialens ariannol i gadw ein gwasanaeth mewn bodolaeth.

Mae nifer o ffyrdd eitha creadigol ar gael i godi arian a byddem yn hollol barod ac hapus i hysbysebu yr holl ymdrechion gyda lluniau ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ystod wythnos y gweithgareddau ac hefyd yn ystod y dyddiau yn arwain lan i’r wythnos. Pe bai pob ysgol yn gosod targed o £50 byddai’r cyfanswm yn gyfraniad aruthrol i sicrhau parhad y gwasanaeth.”

Mae Llyfrau Llafar Cymru yn elusen gofrestredig sefydlwyd yn 2010. Roedd yn bodoli yng nghynt fel Cynllun Casetiau Cymru a ddechreuwyd gan Rhian Evans yn 1979. Collodd Rhian ei golwg yn ystod y saith degau. Ers hynny recordiwyd dros 2,500 o “lyfrau” ynghyd a recordio yn fisol papurau cymunedol a cylchgronau a’r cyfan, wrth gwrs, yn rhad.

Os am wybodaeth pellach cysylltwch gyda :

Sulwyn Thomas 07778435765

Rhian Evans 01267235195

Linda Williams 01267238225

Comments are closed.