Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

CYNGERDD PONTYBEREM – LANSIO LLYFR “STRAEON GRAV”

Unwaith eto cynhaliodd Llyfrau Llafar Cymru gyngerdd arbennig yn Neuadd Pontyberem, y tro hwn yng nghwmni Rhys Meirion,Aled Wyn Davies ac Elin Fflur. Yn ymuno â nhw oedd Cwmni Theatr Ieuenctid Gwendraeth /Elli. Gadawodd pawb wedi cyflwyniadau gwefreiddiol.

Roedd pwrpas ychwanegol i’r noson gan fod Rhys Meirion wedi golygu cyfrol o straeon am yr anghymharol Ray Gravell a lansiwyd y llyfr,o Wasg y Lolfa, cyn mynd ymlaen â’r gyngerdd.

Diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson.  Diolch yn arbennig i Brian Jones, Castellhowell am nawdd hael iawn.

Yn ystod y noson darllenwyd darnau o’r llyfr a phawb yn dotio ar rai o’r straeon am y Cawr o’r Mynydd.

Llywyddwyd  y noson yn ddiheug iawn gan Mansel Thomas.

Diolch i bawb a gefnogodd y gyngerdd  a thrwy hynny helpu Llyfrau Llafar Cymru i barhau i baratoi llyfrau sain i Gymry sy’n methu darllen print.  Bydd y gyfrol yn cael ei recordio yn fuan gennym.

 

  

Comments are closed.