Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG MIS MEDI 2016

Os nad oeddech chi yn neuadd Pontyberem , ar noson wlyb,oer, annifyr, mae’n anodd disgrifio’r profiad i chi.  Mae’r neuadd ei hun yn enwog am fod yn lle delfrydol i gynnal cyngherddau cerddorfaol a gyda dros 200 o seddi wedi eu llenwi, roedd na awyrgylch parod ar gyfer yr artistiaid.

O’r nodyn cyntaf, roedd pawb ar flaenau eu seddau yn rhyfeddu bod un teulu gyda’r holl ddoniau dan un tô.  Y teulu , wrth gwrs, oedd Charlie, Harry, Lizzie, Sara a Simon Lovell-Jones.   Charlie, efallai, oedd y mwyaf adnabyddus o’r pump. Yn ddwy ar bymtheg oed, mae’n cael ei gyd-nabod fel un o’r feiolinwyr mwyaf addawol gwledydd Prydain; Harry wedyn yn yr Academi Brenhinol yn Llundain, a Lizzie, 15 oed, yn swyno pawb ar y soddgrwth. Ni ddylid anghofio Sara ar y clarinet a Simon, y tad, a gyfeiliai i bawb yn gwbl feistrolgar.

Pa ryfedd i bawb godi ar eu traed ar ddiwedd y cyflwyniadau cywrain a galw am fwy.   Noson anghredadwy, a braint oedd cael bod yno.

Diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson – yn noddwyr, swyddogion y neuadd ac i bawb oedd ddigon lwcus i fod yn dyst i deulu cerddorol talentog tu-hwnt.

Fore trannoeth roedd Merched y Wawr, mewn cynhadledd arbennig yn Abertawe, yn cynnal gwasanaeth.  Gwnaed casgliad yn ôl yr arfer a dewiswyd Llyfrau Llafar Cymru i dderbyn ffrwyth y casgliad -  £890!  Sut fedrwn ni ddiolch digon i chi hefyd am fod mor hael. Gwych iawn.

Bu’n rhaid gohirio’r Twrnament Golff oherwydd tywydd garw.  Gobeithio y cawn ddiwrnod mwy ffafriol ar 21 Medi . Croeso cynnes i olffwyr y wlad i ddod i Gwrs Golff y Derllys, ger Bancyfelin ar gyfer y drydedd ornest i godi arian i Llyfrau Llafar Cymru.

Ar y diwrnod hwnnw fe fydd ffrind da i ni, Tecwyn Ifan ac eraill, mewn stiwdio yn recordio cân arbennig y mae Tecs wedi ei chyfansoddi i gyd-fynd â Phenwythnos y Gannwyll. Y gobaith yw y bydd y gân yn rhan o wasanaeth arbennig sydd yn cael ei baratoi ar gyfer y Sul hwnnw gan y Parchedig Beti-Wyn James.   Bydd modd chwarae’r gân mewn digwyddiadau a drefnir i godi arian, ac ymwybyddiaeth, yn ystod 21-23 Hydref – sef Penwythnos y Gannwyll.  Gobeithio eich bod wrthi yn paratoi ambell i ddigwyddiad.

Bu’r ymateb hyd yn hyn yn rhyfeddol. Dwy i ddim am nodi’r cyfraniadau hael iawn a dderbyniwyd  yn ddiweddar rhag pechu neb.  Dim ond diolch diffuant sydd gyda ni i gynnig i chi i gyd.

Ar nodyn calonogol arall i gloi.  Da dweud bod Rhian mewn gwell hwyliau erbyn hyn wedi misoedd o ansicrwydd ynglyn â’i hiechyd. Mae’n siwr gen i bod yr holl hanesion o lwyddiant yn ein hanes wedi cyfrannu at y gwelliant hwnnw.

Diolch i Alun Williams am y lluniau.

Tan tro nesa

Sulwyn

Comments are closed.